JanoJONESDymuna'r teulu ddiolch o galon am bob caredigrwydd a chydymdeimlad a dderbyniwyd yn eu profedigaeth o golli priod, mam, nain a hen-nain annwyl. Diolch i'r Parchedig Anna Jane Evans a'r Parchedig T Evan Morgan am eu gwasanaeth. Hefyd diolch i ofalwyr Cyngor Gwynedd am eu gofal arbennig dros sawl blwyddyn; i Gartref Nyrsio Cerrig yr Afon am eu gofal tyner ohoni ac ohonom ninnau fel teulu yn ystod wythnosau olaf Jano, ac i Roberts & Owen am eu trefniadau trylwyr arferol.
Keep me informed of updates